 |
|
Mae Ffocws ar Gymru: Ei phobl yn creu darlun o bobl Cymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth am eu nodweddion, hunaniaeth cenedlaethol, amrywiaeth ethnig a sgiliau yn yr iaith Gymraeg, yn ogystal ag edrych ar y Cymry sy’n byw mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Amlygir Cymru fel gwlad â phoblogaeth sy’n tyfu ond sy’n heneiddio, gyda chyfran gynyddol o drigolion a ddaw o’r tu hwnt i’w ffiniau. Mae hunaniaeth genedlaethol yn gryf, ac fe’i hatgyfnerthir gan y cynnydd yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg, yn enwedig ymysg yr ifanc. Er yr hunaniaeth gref hon, mae gan Gymru gymysgedd cynyddol o ddiwylliannau a chefndiroedd ethnig, gyda Chaerdydd a’r prif drefi a dinasoedd eraill yn ganolfannau.
|