Ar gyfer pob dangosydd a ddangosir ym mhroffil y Cyfrifiad, dangosir ffigur canran ar gyfartaledd; safle'r ardal ymysg y 376 o awdurdodau lleol ac awdurdodau unedol o fewn Cymru a Lloegr; a'i safle o fewn Cymru neu o fewn Rhanbarth perthnasol Swyddfa'r Llywodraeth yn Lloegr. Seilir ffigurau canran ar gyfartaledd ar gyfer awdurdodau lleol neu awdurdodau unedol yn Lloegr ar gyfartaledd cyfunol ar gyfer Cymru a Lloegr. Seilir ffigurau canran ar gyfartaledd ar gyfer awdurdodau unedol yng Nghymru ar y cyfartaledd yng Nghymru yn unig.

Ymhob achos, cyfrifir safleoedd yn y drefn ddisgynnol: caiff yr awdurdod sydd â'r gyfran uchaf ar gyfer dangosydd penodol ei raddio fel '1'. Nid yw'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gwneud unrhyw sylwadau o ran rhinweddau gradd uchel neu isel ar gyfer unrhyw ddangosydd. Cofiwch, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gan ardaloedd werth union debyg ar gyfer dangosydd penodol, ac felly efallai y byddant yn rhannu safleoedd.