Ar gyfer pob dangosydd a ddangosir ym mhroffil y Cyfrifiad, dangosir safle yr ardal ymysg y 376 o awdurdodau lleol ac awdurdodau unedol o fewn Cymru a Lloegr; a'i safle o fewn Cymru neu o fewn Rhanbarth perthnasol Swyddfa'r Llywodraeth yn Lloegr.

Ymhob achos, cyfrifir safleoedd yn y drefn ddisgynnol: caiff yr awdurdod sydd â'r gyfran uchaf ar gyfer dangosydd penodol ei raddio fel '1'. Mae'n bwysig nodi y cyfrifir pob safle yn seiliedig ar faint y ganran ac nid ar werthoedd rhifol. Nid yw'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gwneud unrhyw sylwadau o ran rhinweddau gradd uchel neu isel ar gyfer unrhyw ddangosydd. Cofiwch, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gan ardaloedd werth union debyg ar gyfer dangosydd penodol, ac felly efallai y byddant yn rhannu safleoedd.