Mae cyfran y bobl yng Nghymru sy'n 3 oed a throsodd sy'n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg wedi cynyddu o 13.6 y cant i 16.3 y cant yn y deng mlynedd ddiwethaf.
Mae rhai o'r prif bwyntiau sy'n deillio o'r cyfrifiad yn dangos:
Yn y deng mlynedd ddiwethaf, bu cynnydd o 30,000 ym mhoblogaeth Cymru - ychydig dros un y cant - i gyfanswm o 2,903,000.
Mae gan Gymru gyfran lai o bobl sengl ond cyfran uwch o gartrefi un rhiant na Lloegr.
Mae cyfran fwy o bobl yn berchen ar eu cartrefi yn gyfan gwbl yng Nghymru (34.0 y cant) nag yn Lloegr (29.2 y cant).
O gymharu â Lloegr, ceir cyfrannau uwch o bobl yng Nghymru a gyflogir ym myd amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu ac iechyd a gwaith cymdeithasol.
Mae saith o bob deg o bobl yng Nghymru yn teithio i'r gwaith mewn cerbyd modur o gymharu â chwech o bob deg yn Lloegr.
Nid oedd gan bron un o bob tri o bobl yng Nghymru unrhyw gymwysterau ond mae gan bron un o bob chwech radd neu gymhwyster proffesiynol.
Bu cynnydd yn y gyfran o bobl yng Nghymru sydd â salwch hir dymor cyfyngol o 18 y cant yn 1991 i 23 y cant yn 2001. Ym Merthyr Tudful, 30 y cant oedd y gyfran hon.
Wrth ateb cwestiwn newydd, dywedodd 65.1 y cant o bobl bod eu hiechyd 'yn dda', dywedodd 22.5 y cant bod eu hiechyd yn eithaf da a dywedodd 12.4 y cant bod eu hiechyd 'ddim yn dda'. (Yn Lloegr, mae'r cyfrannau hyn yn 68.8 y cant, 22.2 y cant a 9.0 y cant yn y drefn honno.)
Ganwyd dros 75 y cant o boblogaeth Cymru yng Nghymru o gymharu â 77 y cant yn 1991.
Ledled Cymru, nododd 14 y cant o bobl eu hethnigrwydd fel 'Cymry'. Roedd y cyfrannau o bobl a nododd mai Cymry ydynt yn amrywio o 6 y cant yn Sir y Fflint i 27 y cant yng Ngwynedd.
Yng Nghymru, mae bron 98 y cant o'r boblogaeth yn nodi eu hunain fel gwyn o gymharu â 91 y cant yn Lloegr. Mae cyfran y bobl sy'n nodi eu crefydd fel Cristnogaeth yn 72 y cant, sy'n debyg iawn i Loegr.
Yr iaith Gymraeg
Am y tro cyntaf, gofynnwyd i bobl a oeddent yn gallu deall Cymraeg llafar yn ogystal â gallu siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg. Er bod 28.4 y cant yn dweud eu bod yn meddu ar un neu fwy o sgiliau yn y Gymraeg yng Nghymru gyfan, mae'r ganran yng Ngogledd-orllewin a Gorllewin Cymru lawer yn uwch - 76 y cant yng Ngwynedd, 70 y cant yn Ynys Môn, 64 y cant yn Sir Gaerfyrddin a 61 y cant yng Ngheredigion. Mae 16.3 y cant o boblogaeth Cymru gyfan yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.
Hyd yn oed yn yr awdurdod lleol â'r gyfran leiaf, sef Sir Fynwy, mae bron 13 y cant o bobl yn dweud eu bod yn meddu ar un neu fwy o sgiliau yn y Gymraeg.
Dim ond 28.0 y cant o boblogaeth Cymru dros 16 oed sy'n sengl (heb briodi) o gymharu â 30.2 y cant yn Lloegr. Mae gan Gymru hefyd gyfran lai o bobl sydd wedi gwahanu - 1.9 y cant o gymharu â 2.4 y cant.
Mae'r cyfrannau o bobl briod (44.5 y cant), pobl sydd wedi ysgaru (8.7 y cant) neu bobl weddw (9.4 y cant) yn uwch nag yn Lloegr (43.5 y cant, 8.2 y cant ac 8.3 y cant yn y drefn honno).
Mae gan Gymru gyfran uwch o gartrefi un rhiant na Lloegr (10.6 y cant o gymharu â 9.5 y cant) a chyfran ychydig yn is o gartrefi un person - 29.1 y cant o gymharu â 30.1 y cant.
Heblaw am hynny, mae strwythur y cartrefi yn debyg i Loegr - mae 24 y cant o gartrefi yn cynnwys pâr priod gyda phlant, mae 13 y cant yn cynnwys pâr priod heb blant ac mae ychydig dros 9 y cant yn cynnwys pensiynwyr yn unig yn y cartref.
Mae pobl yn holl ardaloedd awdurdodau Cymru yn nodi cyfraddau uwch o iechyd gwael na'r gyfartaledd ar gyfer Cymru a Lloegr - mae 65.1 y cant yng Nghymru yn dweud bod eu hiechyd yn dda o gymharu â 68.8 y cant yn Lloegr ac mae 12.4 y cant yn dweud nad yw eu hiechyd yn dda o gymharu â 9.0 y cant yn Lloegr.
Yng Nghymru y mae saith o'r deg awdurdod lleol gyda'r cyfraddau uchaf o bobl sy'n dweud nad yw eu hiechyd yn dda. Merthyr Tudful sydd â'r gyfran uchaf gydag 18.1 y cant ac mae gan Blaenau Gwent, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Sir Gaerfyrddin a Thor-faen gyfraddau o 13.9 y cant neu fwy. Sir Fynwy sydd â'r gyfradd uchaf o iechyd da yng Nghymru - 68.6 y cant a Chaerdydd sydd â'r gyfran isaf yng Nghymru o bobl gyda salwch hir dymor cyfyngol - 18.8 y cant.
Roedd cwestiwn newydd arall yn y Cyfrifiad ynglyn â darparu gofal di-dâl ac mae 11.7 y cant o bobl yng Nghymru yn nodi eu bod yn darparu rhywfaint o ofal di-dâl o gymharu â 9.9 y cant yn Lloegr.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae 14 y cant o bobl yn darparu gofal di-dâl, yr uchaf yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal â hynny, mae tua 90,000 o bobl (3.1 y cant o'r boblogaeth yng Nghymru) yn dweud eu bod yn darparu dros 50 awr yr wythnos o ofal di-dâl. Dau y cant yw'r gyfran hon yn Lloegr.
Ceir ychydig o dan 1.2 miliwn o bobl rhwng 16 a 74 oed mewn cyflogaeth yng Nghymru - mae 17.3 y cant yn gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu o gymharu â 14.8 yn Lloegr; 2.5 y cant ym myd amaethyddiaeth, hela a choedwigaeth o gymharu ag 1.5 y cant; ac 13.0 y cant mewn iechyd a gwaith cymdeithasol o gymharu â 10.7 y cant yn Lloegr.
Dim ond un rhan o dair o ganran o bobl yng Nghymru a gyflogir yn y diwydiant mwyngloddio a chwarelyddiaeth. Fodd bynnag, dim ond chwarter canran yw'r gyfran hon yn Lloegr.
Ym Mlaenau Gwent, mae bron un gweithiwr o bob tri yn ymwneud â'r diwydiant gweithgynhyrchu ac ym Mhowys mae mwy nag un gweithiwr o bob deg yn gweithio ym myd amaethyddiaeth, hela a choedwigaeth.
Tra bod 71.5 y cant o bobl yn teithio i'r gwaith mewn cerbyd modur, dim ond 6.5 y cant sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae 1.4 y cant yn mynd ar feic ac mae 10.3 y cant yn cerdded i'r gwaith. Hefyd, mae 9.7 y cant yn gweithio gartref neu oddi cartref yn bennaf.
Mae'r defnydd o gerbyd modur yn amrywio o 63 y cant yng Ngheredigion i 78 y cant yn Sir y Fflint. Yng Nghaerdydd a Chasnewydd y mae'r gyfran uchaf o bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (13 y cant ac 11 y cant yn y drefn honno). Mae tua 20 y cant o bobl yn gweithio gartref neu oddi cartref ym Mhowys a Cheredigion.
Nid oes gan bron un o bob tri o bobl rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru unrhyw gymwysterau (33.0 y cant) o gymharu â 28.9 y cant yn Lloegr. Ceir hefyd ychydig yn llai o bobl yng Nghymru sydd â gradd neu gymhwyster proffesiynol (17.4 y cant o gymharu ag 19.9 y cant yn Lloegr).
Mae gan dros 70 y cant o gartrefi statws perchennog ddeiliaid yng Nghymru o gymharu â 68 y cant yn Lloegr. Mae hyn yn cynnwys 34.0 y cant sy'n berchen ar gartref yn gyfan gwbl a 36.8 y cant sy'n berchen ar gartref gyda morgais. O ran llety a gaiff ei rentu, mae'r rhan fwyaf yn rhentu oddi wrth y Cyngor (13.7 y cant) yna landlord preifat (7.4 y cant) a Chymdeithas Dai (4.2 y cant).
Tra bod 75.4 y cant o'r bobl a oedd yn byw yng Nghymru ar adeg y Cyfrifiad wedi eu geni yng Nghymru, ganwyd 20.3 y cant yn Lloegr, 0.8 y cant yn yr Alban a 0.3 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Dim ond 1.3 y cant a anwyd yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd ac 1.9 y cant y tu allan i'r UE.
O'r 22 o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot sydd â'r cyfrannau uchaf o'r boblogaeth a anwyd yng Nghymru (89.5 y cant neu fwy ar eu cyfer pob un ohonynt) tra bod dros 40 y cant o'r boblogaeth yn Sir y Fflint, Conwy a Phowys wedi eu geni yn Lloegr.
Ledled Cymru, ysgrifennodd 14 y cant o bobl 'Cymry' yn yr adran ethnigrwydd ar ffurflen y Cyfrifiad. Mae'r cyfrannau sy'n adnabod eu hunain fel Cymry yn amrywio o 6 y cant yn Sir y Fflint i 27 y cant yng Ngwynedd. Fodd bynnag, mae Arolwg Gweithlu Lleol Cymru yn cynnwys cwestiwn penodol ar genedligrwydd ac felly dylid ei ystyried fel dangosydd mwy dibynadwy. Mae hwn yn rhoi'r ffigur llawer uwch o 69 y cant sy'n ystyried eu bod yn Gymry.
Yng Nghymru yn gyffredinol, dim ond 0.9 y cant sy'n disgrifio eu hunain fel Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (o gymharu â 4.6 y cant yn Lloegr), 0.6 y cant fel grwp ethnig cymysg a 0.2 y cant fel Du neu Du Prydeinig. Caerdydd sydd â'r cyfrannau uchaf yng Nghymru o'r rhan fwyaf o grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
Am y tro cyntaf, rhoddwyd y cyfle i bobl ddisgrifio eu crefydd. Mae'r cyfrannau o bobl sy'n disgrifio eu crefydd fel Cristnogaeth yn amrywio o 64 y cant ym Mlaenau Gwent i dros 79 y cant yn Ynys Môn.
Er mai Moslem yw'r grefydd fwyaf cyffredin yng Nghymru ar ôl Cristnogaeth, dim ond 0.7 y cant o'r boblogaeth y mae'n ei gynrychioli.
Yng Nghymru gyfan, ceir 0.2 y cant o'r boblogaeth sy'n Fwdyddion, 0.2 y cant yn Hindwaid, 0.1 y cant yn Iddewon a 0.1 y cant yn Siciaid.
Fodd bynnag, mae 18.5 y cant yn dweud nad oes ganddynt unrhyw grefydd o gymharu â 14.6 y cant yn Lloegr. Mae dros chwarter y bobl yn Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent yn dweud nad oes ganddynt unrhyw grefydd.
1. Cynhaliwyd Diwrnod y Cyfrifiad ar 29 Ebrill 2001. Mae data'r Cyfrifiad yn rhoi cipolwg o'r wlad ar yr adeg hon. Cyhoeddwyd cyfrifiadau'r boblogaeth yn ôl oedran a rhyw ar gyfer Cymru a Lloegr, Cymru, rhanbarthau yn Lloegr ac awdurdodau lleol Cymru a Lloegr ar 30 Medi 2002.
2. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gyfrifol am y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Cynhelir y Cyfrifiad yn yr Alban gan Swyddfa Cofrestrydd Cyffredinol yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cyhoeddir data'r Cyfrifiad ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon ar wahân.
3. Mae canlyniadau manwl y Cyfrifiad a gyhoeddir heddiw ar gyfer Cymru a Lloegr a'u rhanbarthau ac awdurdodau lleol yn bennaf. Mae datganiadau i'r wasg unigol ar gael ar gyfer Cymru a phob un o naw Rhanbarth Swyddfa'r Llywodraeth yn Lloegr: Gogledd-orllewin Lloegr; Gogledd-ddwyrain Lloegr; Swydd Efrog a'r Humber; Gorllewin Canolbarth Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, De-orllewin Lloegr, De-ddwyrain Lloegr, Llundain a Dwyrain Lloegr. Cyhoeddir datganiadau i'r wasg sy'n cwmpasu chwech o feysydd allweddol testunau'r Cyfrifiad heddiw hefyd: Ethnigrwydd a chrefydd, Teuluoedd, Iechyd, Cartrefi, Pobl a lleoedd, Gwaith. Mae data'r Cyfrifiad a gyhoeddir heddiw ar gael am ddim ar y wefan Ystadegau Gwladol: www.statistics.gov.uk/census/
4. Cyhoeddir rhagor o ddata'r Cyfrifiad yn ystod Gwanwyn a Haf 2003. Ym mis Mawrth/Ebrill, ceir data traws-dabledig, a ddilynir gan ddata ar lefel ardal/ward fach. Yn yr haf, cyflwynir cyfres o adroddiadau testun aml-ffynhonnell sy'n tynnu ar ffynonellau eraill yn ogystal â'r cyfrifiad er mwyn rhoi darlun manwl o destunau a meysydd penodol.
5. Mae manylion y polisi sy'n rheoli'r broses o ryddhau data newydd ar gael gan swyddfa'r wasg.
6. Cynhyrchir Ystadegau Gwladol i safonau proffesiynol uchel a amlinellir yng Nghod Ymarfer Ystadegau Gwladol. Cynhelir adolygiadau sicrwydd ansawdd rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Fe'u cynhyrchir heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol.