Cyflwyniad
Cynhelir y cyfrifiad yng Nghymru o dan yr un awdurdod statudol â gweddill Prydain Fawr, sef Deddf Cyfrifiadau 1920, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf (Cydgyfrinachedd) Cyfrifiadau 1991 a Deddf (Diwygio) Cyfrifiadau 2000. Yn wahanol i'r sefyllfa yn yr Alban, fodd bynnag, o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 1993, nid yw'r cyfrifiad yn fater datganoledig ac felly, yn rhinwedd y Ddeddf Cyfrifiadau, Cofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr sydd ag awdurdod statudol i gynnal y cyfrifiad yng Nghymru.
Cydnabu'r Papur Gwyn sy'n nodi cynigion y Llywodraeth ar gyfer Cyfrifiad 2001 (Cm 4235), a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 1999, bwysigrwydd ennill cefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) ar gyfer trefniadau Cyfrifiad 2001 yng Nghymru, a'r angen i sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei hysbysu'n llawn am yr holl drefniadau o'r fath.
Gwnaed nifer o drefniadau ar gyfer Cyfrifiad 2001 a oedd yn benodol i Gymru. Ymhlith y rhain roedd:
(a) penodi Rheolwr a oedd yn siarad Cymraeg ar gyfer y Cyfrifiad yng
Nghymru
(b) ymgynghori â defnyddwyr cyfrifiad Cymraeg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg
a chysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(c) recriwtio staff maes dwyieithog;
(ch) cynnwys cwestiwn ar yr iaith Gymraeg;
(d) cynnig y dewis o ffurflenni cyfrifiad Cymraeg;
(dd) deunydd cyhoeddusrwydd dwyieithog;
(e) llinell gymorth Cymraeg;
(f) cyhoeddusrwydd i annog pobl yng Nghymru i gofnodi eu hunaniaeth
ethnig fel 'Cymry' os oeddent yn dymuno gwneud hynny;
(ff) cyhoeddi adroddiadau dwyieithog ar ganlyniadau'r Cyfrifiad yng
Nghymru i'w cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ffurflenni Cyfrifiad Cymraeg
Yng Nghymru, rhoddwyd cyfarwyddiadau i gyfrifwyr gynnig dewis o ffurflen cyfrifiad yn Gymraeg neu'n Saesneg i bob cartref. Roedd ffurflenni unigol a ffurflenni Sefydliadau Cymydol hefyd ar gael yn y ddwy iaith. Serch hynny, nodwyd rhai achlysuron lle nad oedd gan gyfrifwyr fersiwn Cymraeg priodol o'r ffurflen wrth law ar gais. Er bod achlysuron o'r fath dipyn yn is o'i gymharu â'r cyfrifiad blaenorol, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn ymwybodol o'r angen i wella argaeledd ffurflenni yn y ddwy iaith mewn unrhyw gyfrifiad yn y dyfodol.
I gyflawni'r ymrwymiad i gynnig ffurflenni cyfrifiad Cymraeg, argraffwyd 1,720,000. O'r rhain dychwelwyd tua 43,800.
Cyhoeddusrwydd
Lle bynnag y bo'n bosibl, cynhyrchwyd taflenni gwybodaeth a deunydd cyhoeddusrwydd naill ai yn ddwyieithog neu fel fersiynau Cymraeg/Saesneg ar wahân.
Cafwyd hysbysebion radio a theledu yn Gymraeg a Saesneg a darlledwyd cyfweliadau byw a chyfweliadau a recordiwyd gyda'r Cofrestrydd Cyffredinol. Yn dilyn ymgynghoriad gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg datblygwyd slogan ar wahân ar gyfer y Cyfrifiad. Defnyddiwyd fersiwn Cymraeg o'r slogan 'Count Me In' - 'Cymru'n cyfri' ar gyfer yr ymgyrch hysbysebu gyffredinol ac ar gyfer holl weithgareddau hyrwyddo a chysylltiadau cyhoeddus y Cyfrifiad.
Gan gydweithio gyda Rheolwr Cyfrifiad Cymru (gweler Rheolwr Cyfrifiad Cymru isod) a chwmni cysylltiadau cyhoeddus a leolwyd yng Nghaerdydd a oedd yn arbenigo ym maes y cyfryngau yng Nghymru, cynlluniwyd yr ymgyrch hysbysebu i danlinellu ymrwymiad y SYG i gynnal Cyfrifiad llwyddiannus a hawdd ei ddefnyddio yng Nghymru, a oedd yn ymwybodol o wahaniaethau ieithyddol a chenedlaethol. Fel rhan o'r ymgyrch hysbysebu gyffredinol roedd hysbysebion teledu yn cynnwys golygfa o Gymru, lleisio Cymraeg ynghyd â phenawdau a fframiau cloi Cymraeg. Fe'u hategwyd gan hysbysebion ychwanegol yn ystod y cyfnod cyn y Cyfrifiad ac yn ystod y cyfnod pan ddychwelwyd y ffurflenni ar sianeli teledu HTV ac S4C, ac mewn hysbysebion radio Cymraeg a Saesneg yn ystod y cyfnod pan ddychwelwyd y ffurflenni, yn ogystal â'r defnydd o bosteri Cymraeg.
Bu'n rhaid cymryd mesurau ychwanegol i wrthweithio'r cyhoeddusrwydd niweidiol a grëwyd gan y pryderon ynghylch diffyg blwch ticio ar gyfer 'Cymry' yn y cwestiwn ar grwp ethnig (gweler Hunaniaeth Gymreig a'r mater o ran blwch ticio ar gyfer 'Cymry' isod). Yn sgîl cyfuniad o hysbysebion, digwyddiadau cysylltiadau cyhoeddus a sesiynau briffio bu'n bosibl ailategu a thanlinellu pwysigrwydd y cyfrifiad i Gymru. Cafwyd ymgyrch hysbysebu arbennig yn seiliedig ar y cysyniad a'r pennawd syml 'Dywedwch eich bod chi'n Gymry a byddwn yn eich cyfri chi'n Gymry'. Fe'i cynlluniwyd i dynnu sylw i'r opsiwn i nodi 'Cymry' ar y ffurflen. Rhoddwyd hysbysebion mewn tua 25 o gyhoeddiadau cenedlaethol a rhanbarthol Cymraeg a Saesneg. Yn ogystal, cynhyrchwyd posteri a baneri ar ffurf taflen i ategu cyfleoedd lluniau unigol. Hefyd addawodd y Cofrestrydd Cyffredinol i lunio adroddiad arbennig ar hunaniaeth Gymreig.
Ar yr un pryd galluogodd ymateb cyflym a phendant i argyfwng clwy'r traed a'r genau a oedd yn datblygu, yn enwedig yng Nghymru, i'r SYG ddelio'n effeithiol â'r sefyllfa anodd a niweidiol bosibl hon.
Rhoddodd dwy fenter benodol gyfle i gynnwys y cyfryngau yng Nghymru yn ystod y broses o gynnal y Cyfrifiad.
Prosiect addysgol oedd y cyntaf, sef CensusAtSchool, a noddwyd gan y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol, Prifysgol Nottingham Trent a'r SYG. Fe'i cynlluniwyd i ysgogi diddordeb mewn ystadegau, annog trafodaeth, dadl a dealltwriaeth yn yr ystafell ddosbarth, dal sylw'r cyfryngau ac annog darllediadau ysgafn neu hyd yn oed rhai hwyliog o'r Cyfrifiad dau fis cyn Diwrnod y Cyfrifiad. Cymerodd ysgolion Cymru ran sylweddol yn y prosiect a chynigiwyd holiaduron a thaflenni gwaith Cymraeg iddynt.
Manteisiodd yr ail, sef The Census Bicentenary 2001, ar ddiddordeb y cyfryngau ym mhen-blwydd y cyfrifiad yn 200 oed yng Nghymru a Lloegr a chysylltiad cyfrifiadau blaenorol â hanes cymdeithasol, lleol a theuluol, y cysylltiadau y teimlwyd eu bod yn gryf iawn yng Nghymru.
Bu'r holl weithgareddau hyn o gymorth i hyrwyddo'r nifer uchel o ffurflenni'r cyfrifiad a ddychwelwyd yng Nghymru. Fodd bynnag, er ystyriwyd bod yr ymgyrch gyhoeddusrwydd yn llwyddiant yng Nghymru cydnabyddir y byddai wedi bod yn fwy defnyddiol i benodi swyddog y wasg lleol ar gyfer Cymru a oedd yn cydweithio'n fwy uniongyrchol gyda, ac i, Reolwr y Cyfrifiad yng Nghymru.
Cwestiwn ar yr iaith Gymraeg
Fel cyfrifiadau blaenorol, roedd Cyfrifiad 2001 yng Nghymru yn cynnwys cwestiwn ar yr iaith Gymraeg at ddibenion casglu gwybodaeth i fesur y wybodaeth a feddwyd am yr iaith, y broses o gynllunio darpariaeth addysg ddwyieithog ac i fonitro effaith y gefnogaeth i'r iaith.
Newidiwyd geiriad y cwestiwn ychydig o'r hyn a fabwysiadwyd yng Nghyfrifiad 1991 er mwyn bod yn fwy cyson â'r cwestiwn cyfatebol ar Aeleg yn yr Alban a Gwyddeleg yng Ngogledd Iwerddon.
Er gwaethaf dymuniad Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill i wneud hynny, ni ehangwyd y cwestiwn yng Nghyfrifiad 2001 i Loegr, yn bennaf oherwydd nad oedd gofyniad digonol o ran polisi i wneud hynny. Ni ddangoswyd bod y wybodaeth yn angenrheidiol, er enghraifft, at ddibenion dyrannu adnoddau neu ddarparu gwasanaethau y tu allan i Gymru.
Geiriad y cwestiwn oedd:
Allwch chi ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg?
apob blwch sy'n berthnasol.
Deall Cymraeg llafar Siarad Cymraeg Darllen Cymraeg Ysgrifennu Cymraeg Dim un o'r uchod
Adlewyrchodd yr uchod newid bach i'r cwestiwn ym 1991 a cheisiodd fesur gallu yn
hytrach nag arfer drwy newid y cwestiwn o 'Ydych chi'n..?' i 'Allwch chi..?',
oherwydd fe'i derbynnir yn gyffredinol bod cwestiwn o'r fath yn mesur
gwybodaeth o'r Gymraeg yn gyffredinol well.
Recriwtio staff maes dwyieithog
Rhoddwyd pwyslais ar recriwtio staff maes dwyieithog, lle bynnag y bo'n bosibl, yn
enwedig mewn ardaloedd â chyfrannau uwch o siaradwyr Cymraeg.
Roedd gan gyfrifwyr yng Nghymru waith anoddach, gyda'r cyfrifoldeb ychwanegol o weithio mewn dwy iaith wahanol ac ymdrin â dau fersiwn gwahanol o ffurflen y Cyfrifiad. Nodwyd bod yn rhaid i ysgwyddau cyfrifwyr Cymraeg fod yn gryf iawn i ddal pwysau bag Cyfrifiad a oedd yn cynnwys dwywaith nifer y ffurflenni na'r rhai yn Lloegr.
Rheolwr Cyfrifiad Cymru
Yn ogystal â recriwtio staff maes traddodiadol a dwyieithog i gynnal y Cyfrifiad yng Nghymru, penododd y Cofrestrydd Cyffredinol Reolwr Cyfrifiad ar gyfer Cymru am y tro cyntaf, a oedd i bob pwrpas yn gyfrifol am weithrediadau'r cyfrifiad yng Nghymru, ond gyda Phencadlys y Cyfrifiad yn parhau i fod yn gwbl gyfrifol am bolisi a chyfeiriad y Cyfrifiad. Penodwyd y rheolwr yn rhannol mewn ymateb i alwadau, ers Cyfrifiad 1991, am Gofrestrydd Cyffredinol ar wahân i Gymru.
Rôl a swyddogaethau Rheolwr Cyfrifiad Cymru oedd:
bod yn bwynt cyswllt cyntaf i'r cyfryngau ar gyfer y Cyfrifiad yng Nghymru;
cymryd rhan mewn trafodaethau gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith;
rhoi cyngor i'r SYG ar faterion yn ymwneud ag iaith o ran yr angen i recriwtio staff maes dwyieithog, a'r cyfarwyddiadau a'r hyfforddiant a roddir iddynt;
rhoi cymorth wrth recriwtio a hyfforddi Rheolwyr Ardal Cyfrifiad yng Nghymru,
cyflawni rôl ragweithiol ac adweitheddol mewn perthynas â materion Cymraeg;
ymateb ar unwaith i broblemau a chwestiynau sy'n codi cyn, ac yn ystod, y broses gyfrifo.
Felly, chwaraeodd Rheolwr Cyfrifiad Cymru ran allweddol o ran cysylltiadau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys cysylltu â sefydliadau llywodraeth ganolog a llywodraeth leol a'r Cynulliad Cenedlaethol.
Hysbysebwyd y swydd ym mis Ionawr 2000 drwy Brif Weithredwyr Awdurdodau Unedol ac Awdurdodau Iechyd, Prif Gwnstabliaid a Phrif Ystadegydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe'i hysbysebwyd hefyd drwy'r wasg yn y Western Mail, Liverpool Daily Echo (y ddau yn hysbysebion dwyieithog) ac yn Gymraeg yn Y Cymro a Golwg.
Dosbarthwyd ffurflenni cais Cymraeg a Saesneg i'r 93 o ymgeiswyr a allai ddewis ym mha iaith yr oeddent am gwblhau'r ffurflen. Fodd bynnag, roedd yn ofynnol i gwblhau'r cwestiwn ar yr hyn y byddai'r ymgeisydd yn ei gyfrannu i'r swydd, yn Gymraeg, i brofi eu gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg. Ystyriwyd bod y rhinwedd hwn yn hanfodol. Dychwelwyd 26 o ffurflenni wedi'u cwblhau. Cyfieithwyd y ffurflenni Cymraeg gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Gwelodd y panel cyfweld, gan gynnwys cynrychiolydd o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, saith ymgeisydd. Penodwyd yr ymgeisydd llwyddiannus o 3 Ebrill 2000 i 30 Mehefin 2001.
Ymgynghori â defnyddwyr yng Nghymru
Fel rhan o'i rhaglen ymgynghori eang ar Gyfrifiad 2001, a ddechreuodd ym 1995, cynhaliodd y SYG ymgynghoriad ar y cyd ac ar wahân gyda defnyddwyr cyfrifiad a phartïon eraill â diddordeb yng Nghymru.
Cwmpasodd yr ymgynghoriad anghenion data, y cynlluniau ar gyfer cynnwys a fformat cwestiynau'r cyfrifiad, diffiniadau a dosbarthiadau, sut y cynhaliwyd y Cyfrifiad a gofynion o ran allbwn, gyda phwyslais ar y materion hynny â pherthnasedd a phwysigrwydd arbennig i Gymru.
Cyfranogwyr allweddol y rhaglen ymgynghori oedd y Swyddfa Gymreig a oedd yn bodoli ar y pryd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn hynny, Grwp Rhwydwaith Defnyddwyr Cyfrifiad Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad drwy gyfuniad o gyfarfodydd Grwp Ymgynghorol, Gweithgor a Grwp Defnyddwyr, Gweithdai, 'Sioeau Ar Daith' cyhoeddus a chyfarfodydd ar y ddwy ochr.
Yn sgîl y pryder ynghylch diffyg canfyddedig ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghymru ar flwch ticio ar gyfer 'Cymry' (gweler isod), cynhelir trafodaethau ar hyn o bryd rhwng y SYG a Llywodraeth Cynulliad Cymru ar sut y gellir rhoi rôl ymgynghorol fwy ffurfiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth bennu ffurf a chynnwys y cyfrifiad yng Nghymru (gweler isod).
Ymarfer y Cyfrifiad yng Nghymru
Ar gyfer cyfrifiadau blaenorol bu'n angenrheidiol cynnal profion cyfrifiad mawr mewn ardaloedd dethol er mwyn asesu ymateb y cyhoedd i eiriad cwestiynau a datblygiadau mewn gweithdrefnau cyfrifo. Am y tro cyntaf, roedd profion cyn Cyfrifiad 2001 yn cynnwys ardaloedd prawf yng Nghymru. Cynhwyswyd rhannau o Geredigion (tua 8,100 o gartrefi) a Gwynedd (9,200 o gartrefi) yn sampl Ymarfer 1999, pan aseswyd effeithiau gweithdrefnau maes a chwestiynau newydd.
Dewiswyd yr ardaloedd i gynrychioli ystod eang o gartrefi ond yn arbennig gan fod y boblogaeth yno yn cynnwys cyfrannau uwch na'r cyfartaledd o siaradwyr Cymraeg. O ganlyniad bu'n bosibl profi ffurflenni Cymraeg a Saesneg yn llawn.
Hunaniaeth Gymreig a'r mater o ran blwch ticio ar gyfer 'Cymry'
Yn fuan ar ôl cymeradwyo cwestiynau Cyfrifiad 2001 yn y Senedd (Mawrth 2000) dechreuodd erthyglau ymddangos yn y Daily Post a'r Western Mail a gwnaed sylwadau i'r SYG yn mynegi pryder a siom nad oedd y cwestiwn ar grwp ethnig yn darparu blwch ticio a oedd yn galluogi pobl yng Nghymru yn benodol i nodi eu hunaniaeth genedlaethol (mewn ffordd sy'n debyg i'r hyn a gynigiwyd i bobl yn yr Alban a oedd yn eu galluogi i nodi eu hunain fel 'Albanwyr').
Nid oedd achos dros gynnwys blwch ticio o'r fath ar gyfer 'Cymry' wedi codi yn ystod y broses ymgynghori eang ar gwestiynau i'w gofyn yn y Cyfrifiad nac o ganlyniad i'r cynigion yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 1999, nac yn ystod Ymarfer y Cyfrifiad a gynhaliwyd mewn rhannau o'r canolbarth a'r gogledd ym 1999 nac yn ystod proses y Senedd. Fodd bynnag, ystyriodd y SYG y materion a godwyd ac ymatebodd ar unwaith ac yn gadarnhaol drwy danlinellu pwysigrwydd y Cyfrifiad i bobl Cymru a'u hannog i gymryd rhan.
Er ei bod erbyn hynny yn rhy hwyr i newid y cwestiwn ar ffurflen Cyfrifiad 2001, mewn ymateb, cyhoeddodd y Cofrestrydd Cyffredinol a'r Ystadegydd Cenedlaethol ddatganiad ym mis Hydref 2000 yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan bobl Cymru ac yn cynnig i drefnu ymgyrch gyhoeddusrwydd i dynnu sylw pobl Cymru at yr opsiwn i nodi 'Cymry' wrth ateb y cwestiwn ar grwp ethnig. Rhoddodd y Cofrestrydd Cyffredinol sicrwydd i bobl Cymru y byddent yn cael eu cyfrif fel Cymry pe byddent yn nodi hynny ar ffurflen y Cyfrifiad (gweler Cyhoeddusrwydd uchod) a byddai'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi. Cynhaliodd gyfarfodydd yng Nghymru gyda defnyddwyr allweddol ac addawodd hefyd y byddai'n ailystyried geiriad y cwestiwn ar grwp ethnig mewn ymgynghoriadau ar gyfrifiadau yn y dyfodol.
Hefyd nododd y byddai'r SYG yn ymgymryd â'r gwaith o gasglu gwybodaeth am hunaniaeth Gymreig - yn ogystal â gwybodaeth am grwpiau ethnig - fel rhan o Arolwg Gweithlu Llafur ehangach yng Nghymru a fyddai'n dechrau tua'r un adeg â Chyfrifiad 2001. Cyhoeddodd y byddai'r wybodaeth hon yn cael ei chyfuno â'r wybodaeth a gasglwyd yn sgîl y Cyfrifiad er mwyn rhoi manylion ar hunaniaeth Gymreig nas gwelwyd o'r blaen ledled Cymru. (O ganlyniad cyhoeddwyd yr adroddiad Canolbwyntio ar Gymru: Ei Phobl ym mis Ionawr 2004).
Serch hynny, roedd pryderon cyhoeddus a gwleidyddol yn bodoli o hyd ac, yn arbennig, parhaodd y Western Mail â'u hymgyrch drwy hyrwyddo a dosbarthu sticer gyda'u fersiwn eu hun o'r cwestiwn ar grwp ethnig a oedd yn cynnwys blwch ticio ar wahân ar gyfer 'Cymry'.
Nododd y SYG na fyddai'n bosibl prosesu, yn awtomatig, unrhyw ffurflenni â sticer o'r fath arnynt ond y byddai'n derbyn unrhyw ffurflenni o'r fath fel rhai a oedd yn cydymffurfio ag ysbryd gofynion statudol y Ddeddf Cyfrifiadau. Fodd bynnag, nid oedd y SYG am golli'r wybodaeth gywir a nodwyd ar y ffurflenni hyn, ac asesodd ddilysrwydd dulliau amgen o brosesu'r wybodaeth a nodwyd ar y ffurflenni hyn, ar wahân - ac, mewn gwirionedd, dyna a wnaeth, drwy gontractio gwasanaeth ychwanegol am gost.
Dychwelwyd 3739 o ffurflenni gyda'r sticeri 'Cymry' arnynt ac yn y pen draw roedd cyfraddau ymateb y cyfrifiad yng Nghymru yn uchel iawn yn gyffredinol - yn wir ychydig yn uwch yn gyffredinol na Lloegr. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod unrhyw leihad sylweddol o ran ymatebion o ganlyniad i'r mater ynghylch y blwch ticio.
Ers Cyfrifiad 2001, mae'r SYG wedi paratoi cyngor a chanllawiau ar y dosbarthiadau i'w defnyddio, yn gyffredinol, wrth gasglu gwybodaeth am hunaniaeth ac ethnigrwydd drwy arolygon cenedlaethol a lleol ac ymarferion monitro ethnigrwydd. Mae hyn yn cynnwys cwestiwn a argymhellir sy'n cynnwys categorïau o flychau ticio ar wahân ar gyfer ymatebwyr yng Nghymru er mwyn nodi eu hunaniaeth genedlaethol fel:
Cymry
Saeson
Albanwyr
Gwyddelod
Prydeinwyr
Eraill
Argymhellir yr un categorïau, ond mewn trefn wahanol, yn Lloegr a'r Alban. Caiff y
gofynion defnyddwyr ar gyfer gwybodaeth o gwestiwn o'r fath yng Nghyfrifiad 2011
eu hystyried pan fydd yr ymgynghoriad ar gynnwys y cwestiynau yn dechrau yn
2004.
Allbwn y Cyfrifiad ar gyfer Cymru
Cyhoeddir adroddiadau ar y Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr o dan adran 4(1) y Ddeddf Cyfrifiadau ac mae'n ofynnol eu cyflwyno gerbron y Senedd yn San Steffan.
Nid oes gofyniad na rhwymedigaeth statudol o'r fath i gyflwyno adroddiadau o ran Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, gwnaed trefniadau i hysbysu aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru pan gyhoeddwyd pob adroddiad o'r fath a darparu copïau iddynt, ar yr un pryd, drwy Lyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhyrchir pob adroddiad o'r fath yn ddwyieithog, a hyd yn hyn maent yn cynnwys:
Canlyniadau cyntaf Cymru;
Ystadegau Allweddol ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru;
Ystadegau Allweddol ar gyfer Etholaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
Adroddiad ar yr Iaith Gymraeg.
Yn ogystal, cyflwynwyd yr Adroddiad Cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr (yn Saesneg yn unig) mewn modd tebyg i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Cyhoeddwyd gwybodaeth gryno am yr iaith Gymraeg a grwpiau ethnig fel rhan o'r Ystadegau Allweddol ar gyfer awdurdodau lleol ym mis Chwefror 2003. Cyhoeddwyd cyfrifiadau pellach ar yr iaith Gymraeg a grwpiau ethnig ym mis Mehefin 2003 gyda thablau lefel Ardal Gynnyrch Safonol.
Cyhoeddwyd yr Adroddiad ar yr iaith Gymraeg yn ddwyieithog a'i gyflwyno gerbron y Senedd ar 10 Chwefror 2004. Roedd yn cynnwys amrywiaeth o ganlyniadau'r Cyfrifiad a gyhoeddwyd ar yr iaith Gymraeg ac yn rhoi proffiliau o sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer Cymunedau, sy'n wybodaeth allweddol ar gyfer polisïau ar yr iaith Gymraeg.
Mae Cangen Ethnigrwydd a Hunaniaeth y SYG hefyd wedi cyhoeddi papur yn cymharu ffynonellau gwybodaeth ar sgiliau yn yr iaith Gymraeg. Mae'r papur yn cymharu'r data ar sgiliau yn yr iaith Gymraeg a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2001 â'r rhai a gasglwyd gan Arolwg Gweithlu Llafur Lleol Cymru (WLLFS), ac yn cynnig esboniadau posibl ar gyfer y gwahaniaethau rhwng y ddwy ffynhonnell.
Cyhoeddwyd yr adroddiad y cyfeiriwyd ato yn natganiad yr Ystadegydd Cenedlaethol ym mis Hydref 2000 ar 8 Ionawr 2004 fel Canolbwyntio ar Gymru: Ei Phobl. Mae'r adroddiad yn cyfuno gwybodaeth am Arolwg Gweithlu Llafur Cymru a Chyfrifiad 2001 ac yn creu darlun o bobl Cymru, eu nodweddion, hunaniaeth genedlaethol, amrywiaeth ethnig a sgiliau yn yr iaith Gymraeg, yn ogystal ag ystyried Cymry sy'n byw mewn mannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Yn ogystal, paratowyd templedi dwyieithog ar gyfer Tablau Safonol Cymru - nad oeddent wedi'u cyhoeddi yn Gymraeg - ar y cyd â Grwp Rhwydwaith Defnyddwyr Cyfrifiad Cymru er mwyn gallu llunio'r tablau yn Gymraeg.
Gweinyddiaeth Ddatganoledig Cymru
Nid yw'r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn gyfrifol am faterion sy'n ymwneud â'r cyfrifiad fel y mae yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. O ganlyniad bydd angen rhoi rhywfaint o eglurhad o'r rheswm pam nad yw rhai materion sy'n ymwneud â'r cyfrifiad, yn ogystal â'r rhai sy'n gysylltiedig â dosbarthu grwpiau ethnig, y gellir eu trin yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon (fel, er enghraifft, rheolaeth ddatgelu, y defnydd o ffigurau nas addaswyd, ac ati) yn cael eu trin mewn ffordd debyg yng Nghymru.
Mae'r SYG a Chynulliad Cymru yn ystyried y ffordd o bennu sut y gall y Cynulliad fabwysiadu rôl fwy ffurfiol wrth gytuno ar fformat a chynnwys ffurflenni'r cyfrifiad yn y dyfodol yng Nghymru. Y dull a gaiff ei ffafrio gan y SYG yw adolygu'r Concordat Ystadegau rhwng y SYG a'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn darparu ar gyfer rôl ffurfiol o'r fath heb fod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth newydd sy'n ymwneud â'r cyfrifiad, ond caiff nifer o opsiynau amgen eu harchwilio ar hyn o bryd.
Ym mha ffordd bynnag y bydd y trefniadau mwy ffurfiol hyn yn datblygu, bydd y SYG yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd angen i awdurdodau lleol Cymru a darparwyr cyfleustodau/gwasanaeth eraill, ynghyd â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ddiffinio'r gofynion ar gyfer y wybodaeth sy'n deillio o Gyfrifiad 2011 yng Nghymru, ynghyd â'i ffurf a'i gynnwys. Bydd dulliau cyfathrebu agored yn parhau gyda phob cyswllt allweddol yng Nghymru, yn enwedig y Cynulliad Cenedlaethol, yn ystod y cyfnod rhyng-gyfrifiadol, er mwyn sicrhau y caiff anghenion data eu diwallu drwy gynnwys a chynllun priodol y ffurflen.