Safonau Byw
Hyd at chwarter mewn cartrefi incwm isel
Gwariant wythnosol cartrefi, 2001/02, Cymru
Incwm a gwariant
Yn y flwyddyn 2001/02 cyfanswm canolrifol incwm cartrefi yng Nghymru oedd £313 yr wythnos. Roedd y rhan fwyaf o'r incwm hwn yn deillio o enillion, naill ai cyflog (58 y cant) neu enillion o hunangyflogaeth (7 y cant). Roedd budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn rhoi cyfrif am 13 y cant arall o incwm y cartref, a phensiynau am 17 y cant.
Cyfrifwyd bod rhwng hanner miliwn a thri chwarter miliwn o bobl yng Nghymru yn byw mewn cartref incwm isel yn 2001/02. Roedd un o bob pum person yn byw mewn cartrefi incwm isel (20 y cant) cyn ystyried costau tai. Cynyddodd y gyfran i un o bob pedwar (25 y cant) ar ôl didynnu costau tai.
Yn 2001/02 yr eitem fwyaf o ran gwariant wythnosol yn y cartref ar gyfartaledd yng Nghymru oedd adloniant a diwylliant (£51). Dilynwyd hyn gan drafnidiaeth (£46) a bwyd a diodydd heb fod yn alcoholig (£41). Gwariwyd yr un faint ar dai, tanwydd a phŵer, a, bwytai a gwestai (£31 yr un).
Amwynderau a thai
Roedd gan y rhan fwyaf o gartrefi yng Nghymru beiriannau golchi (93 y cant), o leiaf un car neu fan (75 y cant), ffôn symudol (63 y cant), a derbynwyr teledu lloeren (56 y cant). Roedd 44 y cant o gartrefi yn berchen ar gyfrifiadur ac roedd gan 32 y cant gysylltiad â'r rhyngrwyd. Mae cyfran y cartrefi sydd â mynediad i'r rhyngrwyd yng Nghymru wedi cynyddu'n gyflym, gan ddyblu bob blwyddyn ers 1998/99 pan oedd y gyfran ond yn 7 y cant.
Cofnododd Cyfrifiad 2001 fathau penodol o amwynderau'r cartref, a darganfuwyd bod gan fwy na naw o bob deg cartref yng Nghymru wres canolog a'r defnydd naill ai o fath neu gawod, a thoiled eu hunain (92 y cant).
Roedd gan 7 y cant arall ddefnydd o gyfleusterau ystafell ymolchi eu hunain ond nid oedd ganddynt wres canolog. Canfuwyd bod y gyfran uchaf o'r cartrefi hyn yng ngogledd orllewin Cymru. Roedd y ganran uchaf yng Ngwynedd (21 y cant), gydag Ynys Môn (19 y cant) a Chonwy (14 y cant) i ddilyn. Ychydig iawn o gartrefi yng Nghymru oedd heb wres canolog na chyfleusterau ystafell ymolchi. Ceredigion oedd â'r gyfran uchaf (0.7 y cant).
Roedd mwy na saith o bob deg cartref yng Nghymru (71 y cant) yn gartrefi lle'r oedd y perchennog yn byw ynddynt, naill gyda morgais (37 y cant) neu'n berchen ar y tŷ yn llwyr (34 y cant). Ym Mro Morgannwg roedd y gyfran uchaf o dai lle'r oedd eu perchennog yn byw ynddynt (78 y cant), a'r gyfran isaf ym Mlaenau Gwent (63 y cant).
Roedd ychydig dros un o bob saith cartref yng Nghymru yn byw mewn llety a rentiwyd gan y cyngor lleol (14 y cant). Roedd y gyfran yn amrywio'n eang rhwng ardaloedd Awdurdod Unedol, o 24 y cant ym Mlaenau Gwent i 8 y cant yng Nghonwy. Roedd 7 y cant arall yn rhentu gan landlordiaid preifat, a 4 y cant gan gymdeithas tai ledled Cymru.
Ffynonellau: Cartrefi o Dan yr Incwm Cyfartalog, 2001/02, Adran Gwaith a Phensiynau Arolwg Adnoddau Teuluoedd, 2001/02, Adran Gwaith a Phensiynau Arolwg Gwariant a Bwyd 2001/02, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyfrifiad, 2001, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol Gwariant Teuluoedd 2001/02, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Nodiadau: Cyfanswm Incwm: Incwm wythnosol o bob ffynhonnell ar gyfer oedolion a phlant yn y cartref.
Cartref incwm isel: rhywun sydd â llai na 60 y cant o’r incwm gwario canolrifol. Incwm cyn ac ar ôl costau tai: Defnyddir y ddau fesur hyn yn Cartrefi o Dan yr Incwm Cyfartalog. Mae’r ddau’n ddiffygiol fel arweiniad i wahaniaethau mewn safonau byw, a newidiadau iddynt.