Salwch hirdymor cyfyngol, yn ôl oedran a rhyw, Ebrill 2001
Yn 2001 cofnododd bron chwarter (23 y cant) o'r boblogaeth yng Nghymru bod ganddynt salwch hir dymor cyfyngol neu anabledd a oedd yn cyfyngu ar eu gweithgareddau bob dydd. Roedd y cyfraddau yn cynyddu gydag oedran, yn arbennig gan fod ymatebwyr wedi derbyn y cyfarwyddiadau penodol i 'Gynnwys problemau sy’n deillio o henaint'.
Er gwaethaf cyfraddau uchel o anabledd yng Nghymru, dim ond 12 y cant o'r boblogaeth a nododd 'ddim yn dda' am eu hiechyd cyffredinol. Unwaith eto cynyddodd cyfraddau yn sylweddol gydag oedran, fel bod traean (33 y cant) o bobl 75 oed a throsodd yn dod o dan y categori hwn.
Cofnododd y mwyafrif o bobl (89 y cant) a nododd 'ddim yn dda' am eu hiechyd bod ganddynt anabledd hefyd. Fodd bynnag disgrifiodd llai na hanner (48 y cant) o'r bobl oedd ag anabledd eu hiechyd fel 'ddim yn dda'.
Oherwydd yr amrywiaeth o ran iechyd ac oedran, mae angen cymharu cyfraddau anabledd yn ôl oedran safonedig rhwng ardaloedd Awdurdodau Unedol, gan fod gan poblogaeth ardaloedd awdurdodau gwahanol strwythurau oedran gwahanol.
Ar ôl safoni oedran, Merthyr Tudful oedd â'r cyfraddau uchaf o anabledd ac iechyd oedd 'ddim yn dda'. Ardaloedd eraill oedd â chyfraddau uchel o salwch oedd Blaenau Gwent, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, a Rhondda Cynon Taf. Dynion a merched yng Ngwynedd, Powys a Sir Fynwy oedd â'r cyfraddau isaf o anabledd ac iechyd oedd 'ddim yn dda'.
Gofalwyr
Yn 2001 darparodd 340,000 o bobl, tua 13 y cant o boblogaeth cartrefi yng Nghymru, ofal di-dâl ar gyfer aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gymdogion.
Pobl rhwng 45 a 59 oed oedd y grŵp a oedd fwyaf tebygol o ddarparu gofal di-dâl. Roedd mwy nag un o bob pump (23 y cant) yn gwneud hyn. Roedd bron 7,000 (2 y cant) o blant rhwng 5 a 15 oed yn darparu gofal yng Nghymru.
Roedd mwy o ferched na dynion yn darparu gofal (14 y cant o gymharu ag 11 y cant). Fodd bynnag, roedd dynion bron ddwywaith mor debygol na merched i ddarparu gofal, ymhlith y rhai dros 75 oed.
Roedd y rhan fwyaf o ofalwyr (61 y cant) yn treulio rhwng 1 ac 19 awr yr wythnos yn darparu gofal. Roedd dros chwarter y gofalwyr (26 y cant) yn treulio 50 awr neu fwy yr wythnos yn darparu gofal, ac roedd y gyfran hon yn llawer uwch (50 y cant) ymhlith pobl 75 oed a throsodd.
Darpariaeth gofal di-dâl: yn ôl oedran a rhyw, Ebrill 2001
Cofnododd bron draean o'r rhai sy’n darparu gofal di-dâl yng Nghymru (29 y cant) bod ganddynt anabledd eu hunain. Cynyddodd y ffigwr hwn gydag oedran, fel gyda'r boblogaeth yn gyffredinol. Roedd gan dros hanner y gofalwyr 65 oed a throsodd anabledd.
Castell-nedd Port Talbot oedd â'r gyfran uchaf (14 y cant) o bobl a oedd yn darparu gofal. Yr awdurdodau unedol oedd â'r cyfraddau uchaf o ofal oedd y rhai â'r cyfraddau uchaf o anabledd ac iechyd 'ddim yn dda' gydag oedran wedi'i safoni.
Ffynonellau: Cyfrifiad, Ebrill 2001, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Nodiadau: Gofynnodd y cwestiwn ar Gyfrifiad 2001: A oes gennych unrhyw salwch, problemau iechyd neu anabledd hir dymor sy'n cyfyngu ar eich gweithgareddau bob dydd neu'r gwaith y gallwch ei wneud? Dylech gynnwys problemau sy'n gysylltiedig â henaint.
Dros y 12 mis diwethaf a fyddech yn dweud bod eich iechyd ar y cyfan wedi bod: Yn dda?/Yn weddol dda?/Ddim yn dda?
Ydych chi'n gofalu am aelodau o'ch teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill, neu'n rhoi help neu gymorth iddynt oherwydd: - salwch neu anabledd corfforol neu feddylion hir dymor, neu - problemau sy'n gysylltiedig â henaint Peidiwch â chynnwys unrhyw beth rydych yn ei wneud fel rhan o'ch gwaith cyflogedig. Ticiwch yr amser a dreulir mewn wythnos arferol: 1-19, 20-49, 50+
Mae cyfraddau o ran oedran wedi'i safoni yn caniatáu cymariaethau rhwng poblogaethau â strwythurau oed gwahanol. Y dull a ddefnyddir: Boblogaeth Safonol Ewropeaidd.