Bywyd Gweithio
Mae gan bedwar o bob pum person o oedran gweithio gymhwyster
Y cymwysterau uchaf a enillwyd: yn ôl rhyw, 2001/02
Cymwysterau
Yn 2001/02 roedd gan bedwar o bob pum person o oedran gweithio yng Nghymru gymhwyster addysgol. Nododd Arolwg y Llafurlu fod 80 y cant o ddynion rhwng 16 a 64 oed a 76 y cant o ferched rhwng 16 a 59 oed yn meddu ar gymhwyster.
Roedd dynion bron ddwywaith yn fwy tebygol na merched o gael cymwysterau lefel A fel eu cymhwyster uchaf (28 y cant yn erbyn 15 y cant), lle'r oedd merched yn fwy tebygol o gael TGAU fel eu cymhwyster uchaf (29 y cant yn erbyn 18 y cant). Roedd dynion hefyd yn fwy tebygol o gael gradd ac yn llai tebygol o fod heb gymhwyster. Ymhlith y rhai 50 mlwydd oed a throsodd roedd y gwahaniaethau hyn fwyaf amlwg. Fodd bynnag, ymhlith pobl rhwng 16 a 24 mlwydd oed roedd y cyfrannau o ddynion a merched a oedd yn meddu ar bob cymhwyster yn debyg.
Roedd cymwysterau pobl yn amrywio'n amlwg yn ôl ardal Awdurdod Unedol. Blaenau Gwent oedd â'r gyfran uchaf o bobl heb gymhwyster (33 y cant) a Sir Fynwy oedd â'r gyfran isaf (15 y cant). Caerdydd oedd â'r gyfran uchaf o bobl oedd â gradd (22 y cant) a Blaenau Gwent oedd â'r gyfran isaf (5 y cant). Mae gwahaniaethau o ran cyfleoedd gwaith, oedran a lleoliad sefydliadau addysgol yn ffactorau pwysig.
Gweithgaredd economaidd
Yn 2001/02 roedd 78 y cant o ddynion a 68 y cant o ferched yng Nghymru yn weithgar yn economaidd, hynny yw, roeddent naill ai'n gweithio neu'n chwilio am waith. Yn gyffredinol roedd cyfraddau gweithgaredd economaidd yn amrywio o 80 y cant ym Mhowys a Sir Fynwy i 67 y cant yng Nghastell-nedd Port Talbot a 65 y cant ym Merthyr Tudful. Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot oedd â rhai o'r cyfraddau uchaf o bobl nad oeddent yn gweithio o ganlyniad i salwch hir dymor neu anabledd.
Y gyfradd ddi-waith yng Nghymru oedd 6 y cant yn 2001/02. Roedd oedolion ifanc rhwng 16 a 24 oed fwy na dwywaith mor debygol o fod yn ddi-waith (14 y cant) nag oedolion hŷn. Roedd y cyfraddau diweithdra yn debyg ar gyfer dynion a merched o fewn pob grŵp oedran.
Roedd cyfraddau diweithdra yn tueddu i fod yn uwch na'r cyfartaledd yn ne Cymru, ac ar eu huchaf yng Nghaerffili a Blaenau Gwent (8 y cant yr un). Roedd y cyfraddau ar eu hisaf yng Nghonwy, Wrecsam, a Phowys (pob un o dan 4 y cant).
Y sector cyflogaeth
Dros y pum mlynedd diwethaf bu'r gyfran o swyddi cynhyrchu yng Nghymru yn dirywio o gymharu â swyddi mewn sectorau eraill, fel gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg a iechyd.
Mae dynion a merched yn parhau i ymgasglu mewn sectorau cyflogaeth gwahanol. Dangosodd Arolwg Cyflogaeth a Throsiant Mehefin 2002 bod 42 y cant o swyddi merched yn y sectorau gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd o gymharu a 19 y cant o swyddi dynion.
Mewn cyferbyniad, roedd y gyfran uchaf o swyddi dynion yn y sector cynhyrchu (26 y cant) o gymharu â dim ond 8 y cant o swyddi merched. Roedd yr amrywiaeth yn ôl rhyw yn amlwg hefyd yn y sectorau dosbarthu, gwestai a bwytai er nad oedd yn amlwg yn y sectorau gwasanaethau ariannol a busnes.
Swyddi cyflogeion: yn ôl diwydiant a rhyw, Mehefin 2002
Ffynonellau: Arolwg Llafurlu Ardaloedd Lleol Blynyddol, 2001/02, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol Arolwg byrdymor cyflogaeth a throsiant, 2002, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Nodiadau: Cymwysterau addysg uwch: cymwysterau o dan lefel gradd.
Cyfradd gweithgaredd economaidd: y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd fel canran o'r boblogaeth gyfan 16 oed a throsodd.
Diweithdra ILO: Mesur a argymhellwyd gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO), sy'n cyfrif y rhai sy'n 16 oed a throsodd, sydd ar gael i ddechrau gwaith yn y pythefnos nesaf, sydd wedi bod yn chwilio am swydd dros y pedair wythnos ddiwethaf neu sy'n aros i ddechrau swydd a gafwyd eisoes, fel pobl ddi-waith. Seilir y gyfradd ddi-weithdra ar ddiffiniad yr ILO fel canran o bawb sy'n weithgar yn economaidd.
Swyddi cyflogeion: efallai bod gan un person fwy nag un swydd, ac efallai bod swyddi'n amrywio o ran yr oriau a weithir. Ni chaiff swyddi hunangyflogaeth eu cynnwys.