Ethnigrwydd a Chrefydd
Caerdydd sydd â'r amrywiaeth mwyaf
Casglodd Cyfrifiad 2001 wybodaeth am ethnigrwydd ac, am y tro cyntaf, hunaniaeth grefyddol. Roedd lleiafrifoedd crefyddol ac ethnig yn llunio cyfran fach o'r boblogaeth yng Nghymru, er bod Caerdydd yn llawer mwy amrywiol.
Ethnigrwydd
Roedd y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn disgrifio'u hethnigrwydd fel Gwyn, gyda 96 y cant yn Wyn Prydeinig, 0.6 y cant yn Wyn Gwyddelig ac 1.3 y cant o gefndir Gwyn arall. Roedd gweddill y 2.1 y cant o'r boblogaeth yn dod o gefndiroedd ethnig heblaw Gwyn, ac yn cynnwys 62 mil o bobl.
Roedd mwy na 25 mil o bobl yn dod o linach Asiaidd, gyda'r mwyafrif naill ai'n Indiaidd neu'n Bacistani (8 mil yr un). Roedd bron 18 mil o bobl yn dod o darddiad ethnig Cymysg, disgrifiodd 7 mil eu hethnigrwydd fel Du, a 6 mil fel Tseineaidd. Roedd 5 mil arall yn dod o gefndiroedd ethnig eraill.
Roedd y bobl o gefndiroedd ethnig heblaw Gwyn wedi'u hymgasglu yn nhair dinas fwyaf Cymru. Roeddent yn cyfrif am 8 y cant o'r boblogaeth yng Nghaerdydd, 5 y cant yng Nghasnewydd a 2 y cant yn Abertawe. Yng Nghaerdydd roedd yr ymgasgliadau mwyaf o bell ffordd. Roedd tua hanner y grwpiau Du ac Asiaidd a thraean o’r grwpiau Cymysg a Tsieineaidd yn byw yn y brifddinas.
Roedd y grŵp Gwyn yn hŷn na grwpiau ethnig eraill. Y Gwyn Gwyddelig oedd yr hynaf. Roedd 32 y cant o'r rhai Gwyn Gwyddelig dros oedran gweithio, o gymharu â dim ond 5 y cant o'r grŵp Cymysg a 3 y cant o bobl Bangladeshi. Y grŵp Cymysg oedd yr ieuengaf, gyda bron hanner (47 y cant) o dan 16 oed.
Crefydd
Disgrifiodd bron dri chwarter o boblogaeth Cymru eu crefydd fel Cristnogol (72 y cant). Y grŵp Gwyn oedd yn cynnwys y gyfran uchaf o Gristnogion (73 y cant), a nododd y mwyafrif o bobl Ddu Caribïaidd a phobl o gefndiroedd ethnig Cymysg hefyd eu bod yn Gristnogion (70 ar gyfer y naill a 51 ar gyfer y llall).
Ar ôl Cristnogaeth, Islam oedd y ffydd fwyaf cyffredin nesaf. Caerdydd oedd â'r boblogaeth Foslemaidd fwyaf (4 y cant o'r boblogaeth leol) ond roedd Moslemiaid yn cyfrif am lai nag 1 y cant o'r boblogaeth yn y wlad yn gyffredinol (22 mil o bobl). Roedd y rhan fwyaf o Foslemiaid yn dod o gefndiroedd Asiaidd, gan gynnwys 7 mil o Foslemiaid Pacistani a 5 mil o Foslemiaid Bangladeshi, er bod bron 3 mil o bobl Wyn hefyd wedi'u disgrifio'u hunain fel Moslemiaid.
Ymhlith pob ffydd arall y grŵp mwyaf nesaf oedd Hindwiaid Indiaidd (dros 4 mil) a Bwdyddion Gwyn (3 mil), gydag Iddewon Gwyn a Siciaid Indiaidd (tua 2 fil yr un) yn dilyn.
Roedd patrwm oedran y grwpiau crefyddol gwahanol yn adlewyrchu eu cyfansoddiad ethnig a'r duedd secwlar ymhlith y boblogaeth Wyn. Roedd rhwng 5 a 6 y cant o Foslemiaid, Hindwiaid a Siciaid yn bensiynwyr, o gymharu â 24 y cant o Gristnogion a 30 y cant o Iddewon.
Cofnododd 19 y cant ledled Cymru nad oedd ganddynt unrhyw grefydd a ni chofnododd 8 y cant arall unrhyw ateb.
Ffynonellau: Cyfrifiadau, Ebrill 1991 i Ebrill 2001, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Nodiadau: Cwestiwn Crefyddol y Cyfrifiad: "Beth yw eich crefydd?" Categorïau'r atebion oedd Dim, Cristion, Bwdydd, Hindw, Iddew, Moslem, Sîc, neu, unrhyw grefydd arall.
Cwestiwn Grwpiau Ethnig y Cyfrifiad: Ym 1991 a 2001 gofynnwyd i ymatebwyr i ba grŵp ethnig yr oeddent yn perthyn iddo yn eu barn hwy. Roedd y cwestiwn a ofynnwyd yn 2001 yn fwy ymestynnol na'r cwestiwn a ofynnwyd ym 1991, fel bod pobl yn gallu ticio 'Cymysg' am y tro cyntaf. Efallai mai'r newid hwn yn y categorïau ateb sy'n gyfrifol am ran o'r cynnydd a arsylwyd yn y boblogaeth ethnig leiafrifol dros y cyfnod.
Mae Gwyn Prydeinig yn cynnwys y rhai a nododd mai eu hethnigrwydd oedd Gwyn Seisnig, Gwyn Albanaidd neu Wyn Cymreig.
Oedran Gweithio – Dynion 16 i 64 oed, merched 16 i 59 oed.