Pobl a Anwyd yng Nghymru ond sy'n Byw yn Rhannau Eraill o'r DU
Mwyafrif yn byw yn Lloegr erbyn hyn
Dosbarthiad y bobl a anwyd yng Nghymru sy'n byw y tu allan i Gymru: yn ôl preswylfan, Ebrill 2001, Y Deyrnas Unedig
Dangosodd Cyfrifiad 2001 fod 2.8 miliwn o bobl ledled y DU wedi'u geni yng Nghymru, a bod mwy nag un o bob pump erbyn hyn yn byw yn Lloegr.
Mae'r gyfran o bobl a anwyd yng Nghymru ond sy'n byw yn rhannau eraill o'r DU wedi aros yn gymharol sefydlog dros y cyfnod ar ôl y rhyfel. Dangosodd Cyfrifiad 1951 y gyfran uchaf o bobl a anwyd yng Nghymru yn byw yn Lloegr (23 y cant), tra bod Cyfrifiad 1991 yn dangos y gyfran isaf (20 y cant). Y gyfran yn 2001 oedd 22 y cant.
At ei gilydd, roedd 629 mil o bobl a anwyd yng Nghymru yn byw mewn rhannau eraill o'r DU yn 2001. Roedd bron hanner o'r rhain yn byw yn ne Lloegr, naill ai yn y De Ddwyrain, y De Orllewin (18 y cant yr un) neu yn Llundain (11 y cant). Roedd ardaloedd eraill oedd â niferoedd cymharol uchel o bobl a anwyd yng Nghymru yn cynnwys y rhanbarthau ar ffin Gorllewin Canolbarth Lloegr (15 y cant) a Gogledd Orllewin Lloegr (12 y cant).
Roedd gan bobl a anwyd yng Nghymru ac oedd yn byw yn y wlad strwythur oedran iau na phobl a oedd wedi symud i rannau eraill o'r DU. Roedd plant o dan 16 oed yn cyfrif am ychydig llai na chwarter (23 y cant) o'r rhai a anwyd yng Nghymru oedd yn byw yno ond dim ond 6 y cant o'r rhai a anwyd yng Nghymru oedd yn byw y tu allan i Gymru. Roedd pensiynwyr yn cynnwys 18 y cant o'r bobl a anwyd yng Nghymru a oedd yn byw yno, ond 29 y cant o'r rhai a anwyd yng Nghymru a oedd yn byw y tu allan i'r wlad.
Dangosodd Arolwg y Llafurlu, ymhlith pobl o oedran gweithio a anwyd yng Nghymru, bod gan y rhai a oedd yn byw y tu allan i'r wlad fwy o gymwysterau a'u bod yn fwy tebygol o berthyn i'r dosbarthiadau cymdeithasol uwch na'r rhai a oedd yn byw yng Nghymru. Roedd hyn yn wir ar gyfer dynion a merched a phob grŵp oedran. Er enghraifft, roedd gan 38 y cant o ddynion a anwyd yng Nghymru a oedd yn byw y tu allan i Gymru radd o gymharu â 10 y cant a oedd yn byw yng Nghymru. Roedd bron hanner o'r merched a anwyd yng Nghymru a oedd yn byw y tu allan i Gymru yn perthyn i'r dosbarth rheoli a phroffesiynol (49 y cant) o gymharu â 22 y cant a oedd yn byw yng Nghymru.
Roedd cyfraddau gweithgarwch economaidd hefyd yn is ymhlith y rhai a anwyd yng Nghymru ac a oedd yn byw yno nag ymhlith y rhai a oedd wedi symud i ffwrdd. Roedd hyn yn wir ar gyfer dynion a merched. Er enghraifft, y gyfradd gweithgarwch economaidd ar gyfer merched a anwyd yng Nghymru a oedd yn byw yng Nghymru oedd 68 y cant o gymharu â 77 y cant ar gyfer y rhai sydd erbyn hyn yn byw y tu allan i Gymru. Mae'r gwahaniaethau hyn yn rhannol yn adlewyrchu amrywiadau yn economïau rhanbarthol y DU.
Roedd Arolwg y Llafurlu hefyd yn cynnwys cwestiwn am hunaniaeth genedlaethol. Nid yw'n rhyfedd dysgu bod pobl a anwyd yng Nghymru ond sy’n byw yn rhywle arall yn y DU erbyn hyn yn llai tebygol na'r rhai sy'n byw yng Nghymru o hyd i gynnwys 'Cymreig' yn eu hateb, er bod y mwyafrif yn gwneud hyn o hyd (56 y cant o gymharu ag 87 y cant). Roeddent yn fwy tebygol o grybwyll 'Prydeinig' (41 y cant yn erbyn 19 y cant) neu 'Seisnig' (12 y cant yn erbyn 2 y cant) yn eu hateb.
Ffynonellau: Cyfrifiadau, 1951 i 2001, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Cyfrifiadau, 1951 i 2001, Swyddfa Cofrestrydd Cyffredinol yr Alban; Cyfrifiadau, 1951 i 2001, Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon; Arolwg Llafurlu Ardaloedd Lleol Blynyddol, 2001/02, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Nodiadau: Cyfradd Gweithgarwch Economaidd: Y gyfran o bobl sydd â swydd neu sy'n chwilio am swydd.
Cwestiwn am Hunaniaeth Genedlaethol: Gofynnwyd i bobl: "Beth yw eich hunaniaeth genedlaethol yn eich barn chi? Dewiswch gymaint neu gyn lleied ag sy'n berthnasol" – Yr atebion oedd "Cymry, Saeson, Albanwyr, Gwyddelod, Prydeinwyr, ateb arall".