'Cymry' ar Ffurflenni Cyfrifiad
418,000 yn ysgrifennu 'Cymreig'
Canran y boblogaeth a ysgrifennodd 'Cymreig' ar gyfer cwestiwn ethnigrwydd y Cyfrifiad, 2001
Roedd Cyfrifiad 2001 yn cynnwys cwestiwn ynglŷn ag ethnigrwydd a oedd yn gofyn i bobl dicio blwch i nodi beth oedd eu grŵp ethnig, neu i ysgrifennu ateb eu hunain os nad oedd unrhyw categori yn addas. Nid oedd blwch ar gyfer 'Cymreig' ar y ffurflen, ond ychwanegodd 418 mil o bobl, 14 y cant o'r boblogaeth ledled Cymru 'Cymreig' ar y ffurflen.
Cynhaliwyd ymgyrch eang yn y cyfryngau a rhoddwyd cryn gyhoeddusrwydd i'r mater hwn adeg y Cyfrifiad ac mae'n siwr bod hyn wedi cyfrannu at nifer y bobl a ychwanegodd 'Cymreig' ar y ffurflen.
Roedd ysgrifennu 'Cymreig' fwyaf cyffredin yng ngorllewin a gogledd orllewin y wlad a'r lleiaf cyffredin yn y dwyrain.
Yng Ngwynedd ychwanegodd 27 y cant o drigolion 'Cymreig', a chafwyd cyfrannau eithaf uchel yn Sir Gaerfyrddin (23 y cant), Ceredigion (22 y cant) ac Ynys Môn (19 y cant). Mewn cyferbyniad, ychwanegodd 6 y cant o drigolion Sir y Fflint 'Cymreig'. Roedd cyfrannau hefyd yn isel yn Sir Fynwy (7 y cant), Casnewydd a Wrecsam (9 y cant yr un).
Fel y disgwyliwyd, roedd gwlad enedigol yn ffactor pwysig. Ymhlith y rhai a anwyd yng Nghymru, ychwanegodd 19 y cant 'Cymreig', o gymharu â dim ond 2 y cant o bobl a anwyd mewn mannau eraill.
Roedd tebygrwydd person i ddisgrifio'i hun fel 'Cymreig' hefyd yn gysylltiedig â'u gallu i siarad yr iaith. Yn y pedair ardal Awdurdod Unedol lle'r oedd ychwanegu 'Cymreig' fwyaf cyffredin, roedd siaradwyr Cymraeg yn y mwyafrif. Disgrifiodd un o bob tri o bobl a allai siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg ledled Cymru eu hunain fel 'Cymreig'. Gellir cymharu hyn â thua un o bob pump a oedd yn meddu ar rai o'r sgiliau hyn ac un o bob deg nad oedd yn meddu ar unrhyw un.
Ymhlith y rhai 16 i 74 oed, roedd pobl mewn swyddi proffesiynol a rheoli yn fwy tebygol o nodi 'Cymreig' na'r rhai mewn galwedigaethau arferol, y rhai nad oedd wedi gweithio erioed neu'r rhai a fu'n ddi-waith am gyfnod hir. Ni chafwyd llawer o amrywiaeth yn y cyfrannau a ysgrifennodd 'Cymreig' yn ôl oedran neu ryw.
Ffynonellau: Cyfrifiadau, Ebrill 2001, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Nodiadau: Cwestiwn Grŵp Ethnig y Cyfrifiad: Gofynnwyd i ymatebwyr "Beth yw eich grŵp ethnig?" a darparwyd 16 o gategorïau ateb â blychau ticio o dan bum prif bennawd, Gwyn, Cymysg, Du neu Ddu Prydeinig, Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig ac Arall.
Hunaniaeth Gymreig: Mae'r cyfanswm yn cynnwys y rhai a roddodd sticer wrth y cwestiwn a oedd yn nodi 'Cymry'.