Hunaniaeth Genedlaethol Gymreig
67% yn nodi eu hunain fel Cymry
Hunaniaeth cenedlaethol, 2001/02
Cyflwynwyd cwestiwn ar hunaniaeth genedlaethol yn yr Arolwg Llafurlu yn 2001. Gofynnwyd i ymatebwyr yng Nghymru a oeddent yn ystyried eu hunaniaeth genedlaethol i fod yn Gymry, yn Saeson, yn Albanwyr, yn Wyddelod, yn Brydeinwyr neu'n hunaniaeth genedlaethol arall. Gallent ddewis cymaint neu gyn lleied o opsiynau ag a oedd yn gymwys iddynt.
Nododd chwe deg y cant o oedolion yng Nghymru mai Cymreig yn unig oedd eu hunaniaeth genedlaethol. Disgrifiodd 7 y cant arall eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymreig ond gan gynnwys hunaniaeth arall, Prydeinig gan amlaf, yn eu hateb. At ei gilydd, roedd 67 y cant o oedolion yn ystyried bod eu hunaniaeth genedlaethol yn Gymreig yn llwyr neu'n rhannol.
Fel y disgwyliwyd, y ffactor pwysicaf a oedd yn gysylltiedig â hunaniaeth Gymreig oedd gwlad enedigol. Roedd y bobl a anwyd yng Nghymru yn llawer fwy tebygol i ddisgrifio'u hunaniaeth genedlaethol fel Cymreig (87 y cant) o gymharu â'r rhai a anwyd yn Lloegr (15 y cant), mewn gwledydd eraill yn y DU (17 y cant) neu y tu allan i'r DU (13 y cant).
Ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol, roedd hunaniaeth Gymreig fwyaf cyffredin yn Ne Cymru. Merthyr Tudful oedd â'r gyfran uchaf o bobl a nododd hunaniaeth Gymreig (85 y cant). Roedd yn un o fand o bum ardal Awdurdod Unedig yn ymestyn o Gastell-nedd Port Talbot yng nghanol de Cymru i Flaenau Gwent yn ne ddwyrain Cymru lle nododd80 y cant neu fwy o bobl eu bod yn Gymreig.
Canran y boblogaeth a anwyd yng Nghymru, sy'n 16 oed a throsodd ac yn nodi eu bod yn Gymry: yn ôl ardal Awdurdod Unedol, 2001/02
Fodd bynnag, wrth ystyried y rhai a anwyd yng nghymru yn unig, roedd hunaniaeth Gymreig yn fwy cyffredin yng Ngorllewin y wlad. Yn ardaloedd Awdurdod Unedol Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin dywedodd 93 y cant o'r bobl a anwyd yng Nghymru mai eu hunaniaeth genedlaethol oedd Cymreig.
Gogledd a dwyrain Cymru sy'n cynnwys y cyfrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg, a chysylltwyd y gallu i siarad Cymraeg â hunaniaeth genedlaethol hefyd. Ymhlith y bobl a allai ddeall, siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg, disgrifiodd 89 y cant eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymreig. Gellir cymharu hyn â 74 y cant o bobl sy'n meddu ar rai o'r sgiliau hyn a 59 y cant o'r rhai nad oes ganddynt yr un.
Cysylltwyd cymwysterau, dosbarth economaidd-gymdeithasol ac oedran â hunaniaeth Gymreig hefyd.
Roedd y rhai a oedd â llai o gymwysterau addysgol yn fwy tebygol o nodi hunaniaeth Gymreig. Er enghraifft, dywedodd tri chwarter o'r bobl nad oedd ganddynt unrhyw gymhwyster mai Cymreig oedd eu hunaniaeth genedlaethol (75 y cant) o gymharu â dim ond hanner o'r rhai oedd â gradd neu gymhwyster cyfatebol (51 y cant). Yn yr un modd, roedd pobl mewn galwedigaethau arferol yn fwy tebygol na'r rhai yn y dosbarth economaidd-gymdeithasol uwch reoli neu broffesiynol i ddweud mai Cymreig oedd eu hunaniaeth cenedlaethol.
Roedd oedolion iau rhwng 16 a 44 oed yn fwy tebygol nag oedolion hŷn o ddisgrifio eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymreig. Ni chanfuwyd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng dynion a merched.
Ffynonellau: Arolwg Llafurlu Ardaloedd Lleol Blynyddol, 2001/02, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Nodiadau: Cwestiwn am hunaniaeth genedlaethol: Gofynnwyd i bobl "Beth yw eich hunaniaeth genedlaethol yn eich barn chi? Dewiswch gymaint neu gyn lleied ag sy’n gymwys" – Rhestrwyd yr atebion yn y drefn ganlynol "Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig, Prydeinig, ateb arall".
Oedolion: Diffinnir oedolion fel pobl 16 oed a throsodd.
Ffactorau sy'n gysylltiedig â chael hunaniaeth genedlaethol Gymreig: Cynhaliwyd dadansoddiad atchweliad logistaidd i ganfod pa ffactorau a oedd yn gysylltiedig yn annibynnol â chael hunaniaeth Gymreig. Y canlyniad oedd bod gwlad enedigol, y gallu i siarad Cymraeg, awdurdod unedol, cymwysterau addysgol, dosbarth economaidd-gymdeithasol ac oedran i gyd yn arwyddocaol.