Yr Iaith Gymraeg
Siaradwyr Cymraeg yn cynyddu i 21%
Cyfran y bobl 3 oed a throsodd sy'n gallu siarad Cymraeg
Dywedodd dros un rhan o bump (21 y cant) o boblogaeth Cymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2001 gyda chyfrannau tebyg yn gallu darllen (20 y cant) ac ysgrifennu (18 y cant) Cymraeg. Cofnododd un ar bymtheg y cant bod ganddynt yr holl sgiliau hyn. Am y tro cyntaf, gofynnodd y Cyfrifiad i ymatebwyr ynglŷn â deall Cymraeg; dywedodd bron chwarter (24 y cant) eu bod yn gallu deall yr iaith.
Cafodd cwestiwn am siarad Cymraeg ei gynnwys ym mhob Cyfrifiad ers 1891, pan oedd mwy na hanner (54 y cant) o'r boblogaeth yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Ers hynny, gostyngodd y gyfran o bobl sy'n siarad Cymraeg yn sylweddol cyn cyrraedd isafbwynt (19 y cant) yn 1981 a 1991.
Cyfran y bobl sy'n gallu siarad, darllen ac ygrifennu yn Cymraeg: yn ôl oedran, Ebrill 2001
Cysylltir y cynnydd yn nifer y bobl a all siarad Cymraeg ers 1991 i raddau helaeth â dysgu'r iaith i blant yn yr ysgol. Roedd dwy ran o bump (39 y cant) o blant rhwng 10 a 15 oed yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg o gymharu â 25 y cant o unigolion rhwng 16 a 19 oed. Disgynodd y gyfran o oedolion a oedd yn meddu ar y sgiliau hyn erbyn tua chanol oed (11 y cant o'r rhai 35 i 49 oed) gan gynyddu wedyn ar gyfer grwpiau oedran hŷn (15 y cant o'r rhai 75 oed a throsodd). Roedd hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod yr iaith yn cael ei defnyddio'n ehangach pan oedd pobl hŷn yn tyfu i fyny.
Ym mhob grŵp oedran, roedd merched yn fwy tebygol o feddu ar y sgiliau iaith Gymraeg hyn na dynion. Roedd y gwahaniaeth hwn yn fwy amlwg yn y grwpiau oedran 10 i 15 ac 16 i 19 mlwydd oed – yn y ddau achos roedd y gyfran o ferched a allai siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg 7 pwynt canran yn uwch na bechgyn.
Ardaloedd Awdurdodau Unedol yn ne a gorllewin Cymru oedd â'r gyfran uchaf o bobl a oedd yn siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Gwynedd ac Ynys Môn oedd yr unig ardaloedd lle'r oedd mwy na hanner y boblogaeth yn meddu ar y sgiliau hyn (61 y cant yn y naill a 51 y cant yn y llall). Roedd y patrwm rhanbarthol hwn yn amlwg o hyd ar ôl ystyried oedran a gwlad enedigol.
Yn y gogledd, roedd gan ardaloedd a oedd ar y ffin â Lloegr gyfraddau llai na'r cyfartaledd o ran pobl a allai siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Yn rhannol, y rheswm dros hyn oedd bod cyfran uchel o'r bobl a oedd yn byw yn y siroedd hyn wedi'u geni y tu allan i Gymru. Wrth edrych ar y boblogaeth a anwyd yng Nghymru yn unig, roedd y cyfrannau yn llawer agosach i'r cyfartaledd rhanbarthol.
Roedd gan ardaloedd Awdurdodau Unedol yn ne ddwyrain Cymru gyfrannau is na'r cyfartaledd o bobl yn siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg, heb ystyried eu gwlad enedigol na'u strwythur oedran. Roedd gan lai na 7 y cant o boblogaeth Blaenau Gwent a Sir Fynwy y sgiliau hyn, sef y cyfraddau isaf yn y wlad.
Roedd y rhai a anwyd yng Nghymru yn llawer mwy tebygol o feddu ar sgiliau iaith Gymraeg na'r rhai a anwyd y tu allan i'r wlad (20 y cant o gymharu â 7 y cant). Fodd bynnag, roedd y rhai a anwyd y tu allan i Gymru yn fwy tebygol o feddu ar sgiliau iaith Gymraeg os oeddent yn byw mewn ardal Awdurdod Unedol lle defnyddir Cymraeg yn eang. Er enghraifft roedd 17 y cant o'r rhai a anwyd y tu allan i Gymru a oedd yn byw yng Ngwynedd, yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.
Ffynonellau: Cyfrifiadau, Ebrill 1891 i Ebrill 2001, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. (Ni chynhaliwyd cyfrifiad ym 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.)
Nodiadau: Cwestiwn y cyfrifiad ar siarad Cymraeg: Er bod union fformat y cwestiwn a sail y boblogaeth wedi newid dros y cyfnod hwnnw, mae'n bosibl defnyddio data blaenorol y Cyfrifiad i ddangos tueddiadau cyffredin o ran y defnydd o'r iaith Gymraeg.