Gwlad Enedigol
Cyfran a anwyd yng Nghymru yn gostwng
Y bobl sy'n byw yng Nghymru: yn ôl y wlad enedigol
Ganwyd tri o bob pedwar person a oedd yn byw yng Nghymru adeg Cyfrifiad 2001 yng Nghymru (75 y cant). Ganwyd 20 y cant arall yn Lloegr, ganwyd 2 y cant yng ngwledydd eraill y DU neu Iwerddon, a ganwyd 3 y cant mewn gwledydd y tu allan i'r DU.
Mae'r gyfran o bobl sy'n byw yng Nghymru a anwyd yng Nghymru wedi disgyn dros y cyfnod ar ôl y rhyfel. Ar adeg Cyfrifiad 1951, ganwyd 83 y cant o'r bobl a oedd yn byw yng Nghymru yno. Disgynodd hyn i 77 y cant ym 1991 ac i 75 y cant yn 2001. Mewn cyferbyniad â hyn, cynyddodd y gyfran o bobl a anwyd yn Lloegr ond a oedd yn byw yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn. Lle'r oedd llai nag un ym mhob saith person a oedd yn byw yng Nghymru wedi cael ei eni yn Lloegr yn 1951, cynyddodd hyn i fwy nag un ym mhob pump erbyn 2001.
Mae gwahaniaeth amlwg o ran y gyfran o bobl a anwyd yng Nghymru ledled ardaloedd Awdurdod Unedig, a cheir y gyfran uchaf yn Ne Cymru. Ganwyd 92 y cant o drigolion Blaenau Gwent a Merthyr Tudful yng Nghymru, gyda Chaerffili, Rhondda Cynon Taf (90 y cant yr un) a Chastell-nedd Port Talbot (89 y cant) yn dilyn. Mewn cyferbyniad â hyn, awdurdod Sir y Fflint, sydd ar y ffin ogleddol oedd â'r ganran isaf o drigolion a anwyd yng Nghymru, sef dim ond 51 y cant. Conwy a Phowys oedd â'r cyfrannau isaf nesaf, sef 54 y cant i'r naill a 56 y cant i'r llall.
Canran y boblogaeth a anwyd yng Nghymru yn ôl ardal Awdurdod Unedol, Ebrill 2001
Ar draws Cymru, y trigolion ieuengaf yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o fod wedi cael eu geni yn y wlad, fel y disgwylid. Ymhlith plant o dan 16 mlwydd oed, ganwyd 87 y cant yng Nghymru. Yn hanner y 22 o awdurdodau, ganwyd naw o bob deg plentyn yng Nghymru, er mai dim ond chwech o bob deg ydoedd ym Mhowys a Sir y Fflint.
Mae'r gyfran o bobl sy'n byw yng Nghymru a anwyd yng Nghymru yn disgyn gydag oed, o 87 y cant o'r rhai o dan 16 oed, i 74 y cant o'r rhai rhwng 16 a 34 oed, ac i 71 y cant o'r rhai rhwng 35 a 64 oed. Fodd bynnag, roedd y gyfran yn cynyddu ychydig i 72 y cant ymhlith pobl 65 mlwydd oed a throsodd.
Roedd y darlun yn llawer mwy amrywiol ar draws y wlad, gan adlewyrchu'n rhannol y gwahaniaethau lleol o ran pobl yn ymfudo i astudio, i weithio, neu i ymddeol. Yn y band o bum awdurdod yn ne Cymru o Gastell-nedd Port Talbot i Gaerffili roedd y gyfran o drigolion a anwyd yng Nghymru yn gyson uwch ar draws pob grŵp oedran (dros 85 y cant) tra'r oedd Sir y Fflint yn gyson isel (tua 50 y cant).
Yng Nghaerdydd, cynyddodd y gyfran o oedolion a anwyd yng Nghymru gydag oedran, tra'r oedd y gyfran yn gostwng yn sydyn yng Nghonwy a Sir Ddinbych fel bod mwy o bensiynwyr a anwyd yn Lloegr yn byw yno na phensiynwyr a anwyd yng Nghymru. Yng Nghonwy, dim ond un o bob tri o'r rhai 75 oed a throsodd a anwyd yng Nghymru.
Ffynonellau: Cyfrifiadau, Ebrill 1951- Ebrill 2001, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Cyfrifiadau, Ebrill 1951- Ebrill 2001, Swyddfa Cofrestrydd Cyffredinol yr Alban; Cyfrifiadau, Ebrill 1951- Ebrill 2001, Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon.
Nodiadau: Mae 'Arall' ar y siart yn cynnwys pobl a anwyd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Iwerddon a gwledydd eraill nad ydynt yn rhan o'r DU.