Poblogaeth Cymru adeg Cyfrifiad 2001 oedd 2.9 miliwn o bobl, sef cynnydd o 1 y cant ers 1991. Dangosodd poblogaeth Cymru dwf bach ond cyson dros y cyfnod rhwng pob cyfrifiad ers y rhyfel. Erbyn 2001 roedd dros 300,000 yn fwy o bobl yn byw yng Nghymru nag ym 1951.
Yn 2001, roedd tua dwy ran o dair o boblogaeth Cymru yn byw yn rhan ddiwydiannol ddeheuol y wlad, gyda Chaerdydd, Abertawe a Chasnewydd fel yr ardaloedd trefol mwyaf. Roedd y traean arall yn byw yn y gogledd a'r gorllewin gwledig yn bennaf. Rhennir Cymru yn 22 o ardaloedd Awdurdodau Unedol ac o'r rhain, Caerdydd sydd â'r boblogaeth fwyaf (307,000), gyda Rhondda Cynon Taf (232,000) ac Abertawe (224,000) yn dilyn. Merthyr Tudful oedd â'r lleiaf o drigolion, 56 mil.
Cafodd y mwyafrif o'r ardaloedd Awdurdodau Unedol brofiad o gynnydd mewn poblogaeth dros y degawd, gyda Cheredigion yn profi'r cynnydd mwyaf (14 y cant) gyda Sir Fynwy a Phowys (6 y cant yr un) yn dilyn. Mewn cyferbyniad, ym Merthyr Tudful y gwelwyd y gostyngiad mwyaf (6 y cant) mewn poblogaeth a chafwyd gostyngiad mewn wyth awdurdod arall.
Oedran
Yn 2001 oedran canolrifol y boblogaeth yng Nghymru oedd 38 mlwydd oed, i fyny o 36 oed ym 1991 a 34 oed ym 1981. Roedd tri o bob pum person o oedran gweithio (dynion 16 i 64, merched 16 i 59), tra'r oedd un o bob pump dros yr oedran gweithio ac un o bob pump o dan 16 oed.
Rhwng 1991 a 2001, cynyddodd nifer y bobl a oedd dros yr oedran gwaith bron 2 y cant tra gostyngodd nifer y plant o dan 16 oed 0.5 y cant. Mae'r duedd ar ôl y rhyfel bod mwy o bobl hŷn ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol yn arbennig o amlwg ymhlith yr henoed yng Nghymru. Mae nifer y bobl 85 oed neu drosodd wedi cynyddu bum gwaith dros yr hanner canrif ddiwethaf, gan gyrraedd 59 mil yn 2001.
Ymhlith aradaloedd Awdurdodau Unedig, Conwy oedd â'r gyfran uchaf o bobl o oed pensiwn (26 y cant) a Chaerdydd oedd â'r ganran isaf (17 y cant). Casnewydd oedd â'r gyfran uchaf o blant (22 y cant) , a Cheredigion oedd â'r gyfran isaf (17 y cant).
Cyfansoddiad y cartref
Cofnododd Cyfrifiad 2001 1.2 miliwn o gartrefi yng Nghymru. O'r rhain, roedd 29 y cant ohonynt yn cynnwys un person, o gymharu â 25 y cant ym 1991. Roedd ychydig dros hanner y rhai oedd yn byw ar eu pen eu hunain yn 2001 yn bensiynwyr (15 y cant o'r holl gartrefi).
Roedd wyth ar hugain y cant o gartrefi yn cynnwys teulu gyda phlant dibynnol. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain yn barau priod (17 y cant o'r holl gartrefi), er bod y gyfran hon wedi dirywio 6 phwynt canran ers 1991. Mewn cyferbyniad, cynyddodd y gyfran o gartrefi rhieni unigol â phlant dibynnol o 5 y cant ym 1991 i 7 y cant yn 2001. Gwelwyd bod y gyfran o barau a oedd yn cyd-fyw â phlant (3 y cant) wedi mwy na dyblu dros y degawd.
Ffynonellau: Cyfrifiadau, Ebrill 1951 i Ebrill 1971, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Amcangyfrifon o'r boblogaeth canol blwyddyn 1981, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Amcangyfrifon diwygiedig o'r boblogaeth canol blwyddyn 1991 i 2001, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Nodiadau: Diwrnod y Cyfrifiad: Ebrill 29ain 2001.
Plentyn dibynnol : Person mewn cartref rhwng 0 a 15 oed neu berson rhwng 16 a 18 oed sy'n fyfyriwr llawn amser ac sydd mewn teulu sydd â rhiant/rhieni.